Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn datblygu ffyrdd o helpu pobl ag awtistiaeth i gael profiad o’r amgueddfa. Mae gennym Wobr Cyfeillgar i Awtistiaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth. Yr amseroedd tawelaf i ymweld â’r Ganolfan Eifftaidd yw yn y prynhawn (2:30-4:00pm) yn ystod yr wythnos. Mae lefelau golau yn amrywio ar draws yr Amgueddfa. Mae rhai o’r ystafelloedd wedi’u goleuo’n ysgafn i gadw’r arddangosion. Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud drwy’r orielau ac mae rhai mannau yn eithaf oer. Efallai y byddwch am ddod â haen ychwanegol o ddillad i’w gwisgo yn yr ardaloedd hyn.

Straeon Cymdeithasol

Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn cynnig straeon cymdeithasol i helpu unigolion ag awtistiaeth i baratoi ar gyfer eu hymweliad. Mae’r straeon hyn yn darparu gwybodaeth glir a gweledol am yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod taith amgueddfa, megis y golygfeydd, y synau a’r torfeydd. Mae’r adnodd gwerthfawr hwn yn helpu i leihau pryder a chreu profiad mwy cadarnhaol i ymwelwyr awtistig a’u teuluoedd.

I weld ein stori gymdeithasol, cliciwch yma.

I weld ein stori gymdeithasol ar gyfer grwpiau ysgol, cliciwch yma.

Mapiau Synhwyraidd

Er mwyn cynorthwyo unigolion â sensitifrwydd synhwyraidd, mae’r Ganolfan Eifftaidd yn darparu mapiau synhwyraidd manwl. Mae’r canllawiau gweledol hyn yn amlygu ardaloedd o ysgogiad synhwyraidd uchel ac isel yn yr amgueddfa, gan ganiatáu i ymwelwyr gynllunio eu llwybr . Drwy gynnig yr adnodd hwn, mae’r Ganolfan Eifftaidd yn dangos ei hymrwymiad i wneud profiad yr amgueddfa yn bleserus i bawb. I weld ein map synhwyraidd, cliciwch yma.

A black and white icon of a pair of headphones with a heart symbol intertwined within them. The heart is shaped like a figure eight.

Laniardau Ymweliad Tawel

Mae gan y Ganolfan Eifftaidd “Laniardau Ymweliad Tawel” i ymwelwyr eu benthyca tra byddant yn yr amgueddfa. Mae hyn yn dangos i staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yr hoffech chi gael ymweliad tawelach. Gallwch ofyn cwestiynau o hyd ond bydd ein staff yn aros i chi ddechrau’r sgwrs. Mae’r Laniardau car gael wrth y ddesg Blaen Tŷ.

Amddiffynwyr Clust

Mae gan y Ganolfan Eifftaidd amddiffynwyr clust plant ar gael yn rhad ac am ddim o dderbynfa’r amgueddfa. Mae amddiffynwyr clust yn rhwystr i fewnbwn synhwyraidd, gan greu amgylchedd mwy cyfforddus i’r unigolyn. Mae hyn yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar fwynhau’r profiad amgueddfa heb deimlo’n orleth.