Portrait photo of a man (Phil Hobbs)

Ebost: p.h.j.hobbs@swansea.ac.uk

Rhif ffôn: (01792) 602668

Fi yw’r Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu yn y Ganolfan Eifftaidd a’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ysgolion, colegau, a grwpiau addysg yn y cartref sy’n dymuno ymweld â’r amgueddfa.

Yn athro ysgol gynradd gymwysedig gyda dros ugain mlynedd o brofiad, roeddwn yn arbenigo fel athro disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cynhwysiant ar gyfer pob dysgwr. Rwy’n mwynhau helpu pobl ifanc ac yn mynd ati i annog eu dysgu, eu diddordeb yn y byd o’u cwmpas, a’r hanes a ddaeth o’r blaen.

Rwy’n briod ac yn dad balch i dri o blant ac yn mwynhau amrywiaeth o hobïau gan gynnwys rhedeg, darllen, a threulio amser gyda fy nheulu. Dwi’n ffan mawr o gerddoriaeth, yn enwedig roc a blues, ac yn chwarae’r gitâr fas. Rwyf hefyd yn gefnogwr brwd o lawer o chwaraeon, yn enwedig criced a phêl-droed, ac wedi bod yn ddeiliad tocyn tymor Dinas Abertawe ers dros bum mlynedd ar hugain.

Didordebau Ymchwil

Mae gennyf ddiddordeb sy’n datblygu’n gyflym ym mhopeth sy’n ymwneud â’r hen Aifft ac ers ymuno â’r amgueddfa rwyf wedi ymddiddori fwyfwy yn ein casgliad. Wrth weithio yn yr amgueddfa, rwy’n rhyfeddu at yr amrywiaeth o arteffactau diddorol sydd gennym a sut y cawsant eu defnyddio mor bell yn ôl.

C.V. Cryno

Addysg

  • 2014 Prifysgol Abertawe (Diploma i Raddedigion mewn Addysg)
  • 2001 Prifysgol Abertawe (Tystysgrif Addysg i Raddedigion; lefel TAR Cynradd)
  • 1994–97 Athrofa Addysg Uwch Abertawe (gradd BA Cydanrhydedd: Saesneg ac Astudiaethau mewn Cymdeithas Fodern)

Cyflogaeth

  • Y Ganolfan Eifftaidd, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu (2024–Presennol)
  • Ysgol Gynradd Danygraig, Athro Ysgol Gynradd (2005–2024)
  • Amrywiol Ysgolion Cynradd ac Arbennig Abertawe, Athro Cyflenwi (2001–2005)
  • Ysgol Crug Glas, Cynorthwyydd Dysgu (1998–2000)