Mae’r Ganolfan Eifftaidd, Amgueddfa Hynafiaethau Eifftaidd, wedi’i lleoli ar gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe. Mae’r Amgueddfa’n derbyn c. 22,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn cynnwys c. 7,000 o wrthrychau. Sefydlwyd y casgliad yn sylweddol yn 1971 ar ddeunydd o Sefydliad Wellcome. Agorodd y casgliad yn rhan-amser i ddechrau ym 1976 fel Amgueddfa Wellcome yn Abertawe, gan symud i’w chyfleusterau presennol ym 1998 fel y Ganolfan Eifftaidd.
Casgliad y Ganolfan Eifftaidd yw’r casgliad mwyaf o hynafiaethau Eifftaidd yng Nghymru, gan ddenu diddordeb academaidd a chyhoeddus o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Mae’r amgueddfa’n darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys addysgu academaidd, ymweliadau ag ysgolion, a chyfleoedd gwirfoddoli. Rydym yn cynnig arddangosion a gweithgareddau rhyngweithiol, gan ein gwneud yn gyrchfan wych ar gyfer gwibdaith hwyliog ac addysgol.
Datganiad Cenhadaeth
Nod y Ganolfan Eifftaidd yw casglu, dehongli a gofalu am ddeunydd archeolegol Eifftaidd a Chlasurol a dogfennaeth gysylltiedig er mwyn gwella llesiant, addysg, a bywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt, nawr ac yn y dyfodol.
Swyddogaethau Craidd
Cadw’r Casgliad a Rheoli’r Casgliad, heb hynny ni fyddai amgueddfa. Mae casgliadau yn hanfodol i ddiffinio a gweithrediad amgueddfa. Mae’r polisi caffael a gwaredu, y polisi gofalu am gasgliadau, a dogfennaeth yn ganolog i hyn ac yn sylfaenol i ofynion achredu.
Mae Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Eifftaidd yn cynnwys dysgu ffurfiol ac anffurfiol, mae’n ryngddisgyblaethol a gydol oes, ac mae’n dilyn theori adeileddiaeth (caniatáu i’r ymwelydd lunio ystyr), gan ddefnyddio’r casgliad i gyflwyno gwasanaeth i bob oed a gallu. Mae’n cynnwys ymchwil, caffael sgiliau, ac ysbrydoliaeth, yn ogystal â chynnwys amrywiaeth o adnoddau megis man gwerthu’r siop. Mae dysgu hefyd yn ymwneud â hyfforddiant a datblygiad personol staff a gwirfoddolwyr.
Mae Ehangu Cyfranogiad yn amlygu ein nod i gyrraedd cynulleidfa mor amrywiol â phosibl ac ymgorffori pob grŵp ym mywyd yr amgueddfa ac felly’r Brifysgol. Ar yr un pryd, deuir â’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y Brifysgol i fwy o gydweithredu â’r cyhoedd ehangach.