Ymunwch â ni am ddiwrnod bywiog sy’n canolbwyntio ar yr Aifft yn y cyfnodau cyn-freninlinol a breninlinol cynnar ym Mhrifysgol Abertawe! Bydd y digwyddiad hwn, a fydd yn cynnwys ysgolheigion rhyngwladol o fri ac arbenigwyr o Abertawe, yn arddangos y darganfyddiadau diweddaraf mewn gwaith maes ac yn esbonio sut mae ein casgliadau yn y Ganolfan Eifftaidd yn cyfrannu at ymchwil newydd i lywodraethau cynnar, cymunedau Niwbiaidd a datblygiadau mewn meteleg yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid gwleidyddol a chymdeithasol. Bydd sgyrsiau hefyd am ddadansoddiad gwyddonol cynnwys llestri hynafol o Abertawe, yn ogystal â chanlyniadau newydd sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng arteffactau cynhanesyddol go iawn a ffugiadau modern yn ein casgliadau. Peidiwch â cholli’r sesiynau trin gyda deunyddiau heb eu cyhoeddi. Mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim, ar y campws ac ar-lein. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Abertawe am ddiwrnod o archwilio a darganfod!
Trefnir y digwyddiad hwn gan y Grŵp Ymchwil OLCAP ar y cyd â’r Ganolfan Eifftaidd.
Christian Knoblauch, Ken Griffin, Meg Gundlach
Pryd a Ble
Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 7 Mehefin (tua 10am i 4.30pm) yn Ystafell y Rhodfa Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe. Caiff ei ffrydio ar-lein (drwy Zoom) hefyd i gyfranogwyr na allant ymuno â ni ar y campws. Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond bydd rhaid i’r holl gyfranogwyr gofrestru.
Presenoldeb ar y campws:
Os hoffech fod yn bresennol ar y campws (uchafswm o 60), e-bostiwch christian.knoblauch@abertawe.ac.uk
Presenoldeb Ar-lein:
Os hoffech chi gymryd rhan o bell (Zoom), a wnewch chi gofrestru drwy’r ddolen ganlynol:https://swanseauniversity.zoom.us/meeting/register/N-hHwsJPRKGvOac353sg-g

Rhaglen
9:30-10:00 Cofrestru
10:00-10:10 Cyflwyniad
10:10-10:40 Meg Gundlach (Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe): Early Egypt in the Egypt Centre and Harrogate Collections
10:40-11:10 (Darlith Agoriadol) Christiana Köhler (Prifysgol Fienna): Meret-Neith, Queen of the Nile. Recent excavations of a 1st Dynasty royal tomb at Abydos
11:10-11:30 Seibiant
11:30-12:00 Christian Knoblauch (Prifysgol Abertawe) and Laurel Bestock (Brown): A New Funerary Temple of King Narmer at Abydos?
12:00-12:30 Renee Friedman (Alldaith Hierakonpolis, Rhydychen): The Fort at Hierakonpolis: Above and Below Ground
12:30-1:00 Maria Carmela Gatto (Academi’r Gwyddorau Gwlad Pwyl): The Early Nubian Cemetery at Armant. New Research Drawing on Objects from the Egypt Centre
1:00-2:00 Seibiant cinio a sesiwn trin gwrthrychau
2:00-2:30 Courtney Lyons (Cadwraethwr Annibynnol), Ken Griffin (Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe), Christian Knoblauch (Prifysgol Abertawe): Pigment Analysis and Authentication of Predynastic Vessels in the Egypt Centre and Harrogate Collections. A Multi-Analytical Approach
2:30-3:00 Lisa Mawdsley (Sefydliad Archeoleg Awstralia): AB98 from Tarkhan: Or the Mystery of the Pig Fat in a Jar.
3:00-3:15 Aron O’Shea (Prifysgol Caerdydd): Content Analysis of a Cylindrical Vessel from Tarkhan in the Egypt Centre
3:15-3:30 Seibiant
3:30-4:00 Martin Odler (Prifysgol Newcastle): Prehistoric Metallurgy: New Research Drawing on Objects from the Egypt Centre
4:00-4:30 Joanne Rowland (Prifysgol Caeredin) & Joris van Wetering (Llawrydd): “Naqada” Objects at Swansea and Provenance Studies. The Impact of the Antiquities Market on Museum Objects from Nubt



