cursive text reading 'support your museum'

Bydd yr holl roddion yn mynd tuag at ddatblygiad y casgliad.

Sylwch, oherwydd yr ategyn rhodd, mai dim ond yn Saesneg y mae rhannau o’r dudalen hon ar gael. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Eisiau gwneud rhodd trethadwy i’r Ganolfan Eifftaidd o’r Unol Daleithiau?

I wneud rhodd a chymryd didyniad treth incwm yr Unol Daleithiau, gallwch wneud rhodd i Sefydliad Ysgolion a Phrifysgolion Prydain (Rhif ID Ffederal 13-616-1189), sefydliad elusennol a gymeradwywyd gan Wasanaeth Refeniw Mewnol yr Unol Daleithiau o dan Adran 501(c) (3) o’u Cod. Dylech fynegi “a preference for Swansea University – The Egypt Centre” yn eich llythyr trosglwyddo ac nid ar eich siec, sydd i’w thynnu i drefn Sefydliad Ysgolion a Phrifysgolion Prydain. Perchir dewisiadau o’r fath gan y Sefydliad ond rhoddir pob grant yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, fel sy’n ofynnol gan yr I.R.S.

Am ragor o fanylion, ewch i: https://www.bsuf.org/donate

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch egyptcentre@swansea.ac.uk.