Croeso i wefan y Ganolfan Eifftaidd!
Yn swatio o fewn Prifysgol Abertawe, mae gan y Ganolfan Eifftaidd y casgliad mwyaf o arteffactau Eifftaidd yng Nghymru gyfan. Yma, fe gewch wybodaeth am oriau ymweld, digwyddiadau sydd i ddod, cyfleoedd gwirfoddoli, rhaglenni addysgol, ein casgliad rhyfeddol, a chymaint mwy.
Felly, dewch i archwilio a mwynhau rhyfeddodau’r hen Aifft. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Oriau Agor
Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10:00 am–4:00 pm
Dydd Mercher 10:00 am–4:00 pm
Dydd Iau 10:00 am–4:00 pm
Dydd Gwener 10:00 am–4:00 pm
Dydd Sadwrn 10:00 am–4:00 pm
Dydd Sul Ar gau
Beth sy’n Newydd
Cynlluniau Ailddatblygu Oriel
Yn ddiweddar dyfarnwyd Grant Trawsnewid Llywodraeth Cymru i’r Ganolfan Eifftaidd ar gyfer prosiect ailddatblygu mawr. Bydd y gwelliannau yn gweld y:
- Creu mwy o leoedd ar gyfer profiadau rhyngweithiol, gan gynnwys arogleuon a seinweddau;
- Gosod drysau awtomatig i’r orielau i’w gwneud yn fwy hygyrch i gadeiriau olwyn;
- Casys gwell newydd i arddangos mwy o wrthrychau ac o dan well amgylchedd/goleuadau;
- Paneli dehongli a labeli newydd i adlewyrchu ymchwil gyfredol.
Am ragor o fanylion, cliciwch yma.
Dychweliad yr Arch
Ar ôl 26 mlynedd o waith cadwraeth manwl, mae arch Ankhpakhered (a ailddefnyddiwyd gan Djedher) wedi dychwelyd i’r Ganolfan Eifftaidd. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd, bu dros 50 o fyfyrwyr yn gweithio ar yr arch. Mae wedi’i addurno’n hyfryd ar y tu allan a’r tu mewn gyda golygfeydd o dduwiau a thestunau Eifftaidd. Yn y pen draw, bydd yr arch yn cael ei harddangos yn oriel House of Death yn dilyn gwaith adnewyddu arfaethedig.
Am fwy o fanylion, cliciwch yma.